EnglishCroeso i wefan Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Mae’r Gymraeg wedi’i dysgu yma er 1827 ac mae’n Adran glos a chyfeillgar lle mae cymysgedd o fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith o bob oed a chefndir.
CYRSIAU IAITH 2010
Welsh in a Weekend
September 2010 (pob lefel)
For further details please
contact: Gwen Davies
01570 424898 or 01570 424754
gwen.j.davies@lamp.ac.uk
Enillodd yr Adran wobr Iaith Ewropeaidd y Partnership Trust am dorri tir newydd wrth gynnig cyrsiau blaengar, arloesol. Mae’r Partnership Trust yn gwobrwyo addysgu sy’n codi sgiliau myfyrwyr mewn cyfathrebu, ac yn datblygu eu dealltwriaeth o bynciau galwedigaethol, cymdeithasol a gwleidyddol, ynghyd â’u hymwybyddiaeth o ddiwylliannau cyfoes.
Mae cyrsiau e-addysg yr Adran yn arbennig o boblogaidd, gyda channoedd o fyfyrwyr yn astudio modylau ieithyddol a diwylliannol o 40 o wledydd gwahanol. Hyblygrwydd y dull hwn yw hanfod ei lwyddiant a’i boblogrwydd - gellwch ddewis cofrestru ar un neu ddau fodiwl yn unig neu gwblhau gradd mewn Cymraeg neu Astudiaethau Cymraeg yn gyfan gwbl ar-lein.
Elfen lwyddiannus arall o waith yr Adran yw ei chyrsiau iaith dwys. Mae campws braf y Brifysgol ynghanol tref farchnad Llanbedr Pont Steffan yn lle addas tu hwnt ar gyfer cyrsiau o’r fath ac mae cyfleoedd di-ri i ymarfer yr iaith yn y siopau lleol croesawgar. Darperir cyrsiau wythnos a chyrsiau penwythnos i ddysgwyr o bob safon yn ogystal â chyrsiau achlysurol ym maes cyfieithu ac isdeitlo.

Yn 2006 lansiwyd MA newydd mewn Astudiaethau Celtaidd yn yr Adran ac mae’r cwrs dysgu o bell hwn yn mynd o nerth i nerth. Mae hefyd nifer gynyddol o fyfyrwyr MPhil a PhD yn yr Adran ac mae’r staff yn awdurdodau cydnabyddedig yn eu priod feysydd.
Byddwn yn lansio nifer o raddau israddedig newydd yn haf 2010 – gyda’r ffocws ar feysydd galwedigaethol megis isdeitlo, cyfieithu ac addysg. Ceir manylion pellach ar y wefan cyn hir.