Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Adran y GymraegEnglish

Cyrsiau Dwys ar gyfer Dysgwyr y Gymraeg

CYRSIAU IAITH 2010

Welsh in a Weekend
September 2010 (pob lefel)

For further details please
contact: Gwen Davies
01570 424898 or 01570 424754
gwen.j.davies@lamp.ac.uk

Bob Pasg a haf trefna’r Adran gyrsiau iaith dwys o wythnos ac ym misoedd Ionawr a Medi gyrsiau penwythnos ar gyfer dysgwyr o oedolion. Cyflawnir y gwaith dysgu gan diwtoriaid prifysgol profiadol sy’n arbenigo mewn dysgu’r Gymraeg fel ail iaith.

Y mae ein cyrsiau dwys yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau dysgu a siarad yr iaith mewn byr o dro. Erbyn diwedd y cyrsiau, mae gan y myfyrwyr ddealltwriaeth drwyadl o’r iaith, gramadeg, geirfa a phatrymau ynganiad.  Rhoddir pwyslais ar ddatblygu’r gallu i fynegi eich hun er mwyn cynyddu hunan hyder, rhuglder a’r gallu i ddefnyddio’r iaith tu allan i’r dosbarth.  Rhoddir sylw personol i unigolion o fewn y dosbarthiadau bach gyda phwyslais ar weithio mewn parau ac mewn grwpiau. Rydym bob amser yn ymdrechu i wneud y dysgu’n brofiad pleserus, hwyliog a heriol er mwyn ysgogi unigolion i weithio’n galed a chael canlyniadau!   Mae’r myfyrwyr i gyd yn rhannu’r un nod o gyflawni’r freuddwyd o lwyddo i siarad yr iaith yn rhugl. Wrth gwrs, y mae’r ffaith fod y Brifysgol wedi ei lleoli mewn ardal Gymraeg ei hiaith yn cynnig cyfle arbennig i ddysgwyr wrth ymarfer eu Cymraeg. Mae'r cyrsiau’n gyrsiau prifysgol achrededig.

Y ffordd berffaith i ddysgu Cymraeg;  lle gellir ymgolli yn yr iaith.

Mae’r lefelau canlynol fel arfer ar gael, yn ôl y galw:

Cwrs yr Haf 2009Mynediad
Dosbarthiadau i ddechreuwyr. Pwyslais mawr ar sgwrsio yn Gymraeg yn cynnwys – yn trafod manylion personol a digwyddiadau yn y gorffennol.

Sylfaen
Cyfle i ehangu eich sgiliau siarad – yn cynnwys trafod y teulu, gwaith a diddordebau.

Canolradd
Mae’r pwyslais ar siarad yn parhau, ond cyflwynir ychydig mwy o ysgrifennu, darllen a gwrando. Dylech allu sgwrsio am bethau pob dydd yn weddol ddidrafferth erbyn diwedd y lefel hon.

Uwch
Byddwch yn dal i ganolbwyntio ar sgiliau llafar, ond yn raddol, byddwch yn dod ar draws radio, teledu a phapurau newydd Cymraeg. Bydd y cyrsiau hyn hefyd yn eich helpu i ysgrifennu Cymraeg at wahanol bwrpasau.

Hyfedredd
Cyrsiau gloywi iaith i siaradwyr Cymraeg rhugl (iaith gyntaf neu ail iaith).

Am fanylion pellach am y cyrsiau hyn, cysylltwch â Gwen Davies ar 01570 424898 neu gwen.j.davies@lamp.ac.uk