Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Adran y GymraegEnglish

Isdeitlo

Rydych chi’n gyfarwydd â gweld isdeitlau ar raglenni teledu, ond a ydych chi wedi ystyried cynhyrchu’r isdeitlau hynny?  Dyma gyfle newydd a chyffrous i ddefnyddio’r peiriannau a’r feddalwedd ddiweddaraf.  Mae’r Uned Isdeitlo ym Mhrifysgol Cymru,  Llanbedr Pont Steffan yn cael ei chydnabod yn un o brif ganolfannau hyfforddi isdeitlo.

Photo of subtitling class

Rydym yn cynnig cyrsiau dwys i’r cyhoedd, ddwywaith y flwyddyn - Cyflwyniad i Isdeitlo. Cyflwynir rhaglenni Cymraeg amrywiol yn y modiwlau a disgwylir i’r myfyrwyr greu isdeitlau yn y Gymraeg ar gyfer gwylwyr sy’n ddysgwyr neu’n drwm eu clyw, yn ogystal â chyfieithu ar sgrin i’r Saesneg. Mae’r myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant i fedru gweithio’n gyflym, medru datrys problemau ieithyddol a thechnegol er mwyn creu isdeitlau o safon darlledu sy’n sail ar gyfer gyrfa mewn isdeitlo os dymunant.  Maent yn dod yn gyfarwydd â defnyddio meddalwedd isdeitlo cyfoes a blaengar a ddefnyddir gan isdeitlwyr proffesiynol.

Am ragor o fanylion, cysyllter â:
Gwen Davies
Adran y Gymraeg
Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 7ED
ffôn: 01570 424898
e-bost: gwen.j.davies@lamp.ac.uk