EnglishDarperir ystod eang iawn o fodiwlau o fewn y cynllun BA Astudiaethau Cymraeg, gan gynnwys modiwlau ieithyddol, hanesyddol a llenyddol. Gellir astudio yn eich pwysau eich hun, o gysur eich cartref gyda chefnogaeth tiwtor personol.
Mae’r cwrs gradd hwn ar gyfer dysgwyr pur neu’r rheiny a pheth gwybodaeth o’r iaith.
Er mwyn ennill gradd mewn Astudiaethau Cymraeg ar-lein, rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfanswm o 360 o gredydau, sef 120 credyd ar Lefel 4 yn ogystal â 240 credyd ar Lefel 5 a Lefel 6. Mae gan fyfyrwyr ar-lein llawn amser, dair blynedd i gwblhau’r radd. Mae gan fyfyrwyr rhan-amser ar-lein hyd at bedair blynedd i gwblhau 120 credyd ar Lefel 4 a chwe blynedd ychwanegol i grynhoi 240 credyd ar Lefel 5 a Lefel 6, sef cyfanswm o 360 credyd.
Gall myfyrwyr gofrestru ar fodiwlau ar-lein ym misoedd Ionawr, Ebrill a Hydref.
Ffurflen gofrestru [word]
Gellir cofrestru ar gyrsiau unigol neu ar gymaint o fodiwlau a ddymunir. Mae’n bosib gwneud un neu ddau o fodiwlau neu ganolbwyntio ar fodiwlau iaith neu hanes neu wneud gradd gyflawn. Gallai ymgeiswyr a dderbynnir i’r cynllun gradd, ond sy’n methu â’i gwblhau, fod yn gymwys ar gyfer naill ai:
Tystysgrif Prifysgol Cymru Llambed mewn Astudiaethau Cymraeg – 120 o gredydau.
Diploma Prifysgol Cymru Llambed mewn Astudiaethau Cymraeg – 240 o gredydau.
Modiwlau Lefel 4 |
|
| 4eAC4520w | Multimedia A - Spoken Welsh |
| 4eAC4620w | Multimedia B – Spoken Welsh - Spoken Welsh |
| 4eAC0320w | Written Welsh C |
| 4eAC3010 | Arthur of the Welsh |
| 4eAC3210 | Geoffrey if Monmouth and the Matter of Britain |
| 4eAC0510w | Heroic Welsh Poetry |
| 4eAC3110 | The Druids |
| 4eAC0410 | Celtic Women Heroines |
| 4eAC1110 | Celtic World in Europe |
| 4eAC1210 | Celtic World in Britain |
Modiwlau Lefel 5 |
|
| 5eAC0120w | Camu Pellach A |
| 5eAC0420w | Camu Pellach B |
| 5eAC2320 | Linguistic Borrowing: Language and Landscape |
| 5eAC7320 | The Sociolinguistics of Welsh |
| 5eAC6320 | The Place Names of Wales |
Modiwlau Lefel 6 |
|
| 6eAC0220w | Camu Pellach C |
| 6eAC2420 | Gerald of Wales |
| 6eAC2320 | Linguistic Borrowing: Language and Landscape |
| 6eAC6120 | Dead Virgins: Feminine Sanctity in Medieval Wales |
| 6eAC7320 | The Sociolinguistics of Welsh |
| 6eAC6320 | The Place Names of Wales |
| 6eAC1720 | Extended Essay |
Mae’r Adran hefyd yn darparu nifer o gyrsiau iaith dwys. Mae’r rhain yn achrededig ac yn medru cyfrif tuag at eich 360 credyd.
Os ydych wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tipyn, mae’n bosib ichi ddilyn rhai o’r modiwlau o’r cwrs gradd Cymraeg fel rhan o’ch gradd.