EnglishDarperir amrywiaeth eang o fodiwlau sy'n trafod iaith, llenyddiaeth a hanes y gellir astudio wrth eich pwysau eich hun, o gysur eich cartref, gyda chefnogaeth tiwtor personol.
Er mwyn ennill gradd yn y Gymraeg ar-lein, rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfanswm o 360 o gredydau sef 120 credyd ar Lefel 4 yn ogystal â 240 credyd ar Lefel 5 a Lefel 6. Mae gan fyfyrwyr ar-lein llawn amser dair blynedd i gwblhau’r radd. Mae gan fyfyrwyr rhan-amser ar-lein hyd at bedair blynedd i gwblhau 120 credyd ar Lefel 4 a chwe blynedd ychwanegol i grynhoi 240 credyd ar Lefel 5 a Lefel 6, sef cyfanswm o 360 credyd.
Gall myfyrwyr gofrestru ar fodiwlau ar-lein ym misoedd Ionawr, Ebrill a Hydref.
Ffurflen gofrestru [word]
Gellir cofrestru ar gyrsiau unigol neu ar gymaint o fodiwlau a ddymunir. Mae’n bosib gwneud un neu ddau o fodiwlau neu ganolbwyntio ar fodiwlau iaith neu hanes neu wneud gradd gyflawn. Mae dau ddyfarniad allweddol ar gael:
120 o gredydau - Tystysgrif Prifysgol Cymru Llambed yn y Gymraeg.
240 o gredydau - Diploma Prifysgol Cymru Llambed yn y Gymraeg.
Cliciwch ar bob modiwl unigol isod am fanylion pellach.
| 4eCYM6005w | Cyfoethogi Iaith 1 – Yr Acen Grom |
| 4eCYM6105w | Cyfoethogi Iaith 2 – Y Treiglad Meddal |
| 4eCYM6205w | Cyfoethogi Iaith 3 - Dyblu’r Cytseiniaid ‘n’ ac ‘r’ |
| 4eCYM6305w | Cyfoethogi Iaith 4 - Arddodiaid |
| 4eCYM 7010w | Gloywi Iaith I |
| 4eCYM 7110w | Gloywi Iaith II |
| 4eCYM0520w | Cyfansoddi |
| 4eCYM1120w | Mynegiant |
| 4eCYM3020w | Blas ar Gyfieithu |
| 4eAC3010w | Arthur y Cymry |
| 4eAC3210w | Sieffre o Fynwy a Chwestiwn Prydain |
| 4eAC0510w | Y Canu Arwrol |
| 4eAC3110w | Y Derwyddon |
| 4eAC0410w | Arwresau Celtaidd |
| 4eAC1110w | Y Celtiaid yn Ewrop |
| 4eAC1210w | Y Celtiaid ym Mhrydain |
| 5eCYM3120w | Mynegiant 2 |
| 5eCYM1020w | Cyfieithu 2 |
| 5eCYM6320w | Astudio Enwau Lleoedd |
| 5eCYM1120w | Benthyca Ieithyddol: Iaith a Thirwedd |
| 5eCYM7320w | Hanes Sosio-ieithyddol y Gymraeg |
| 5eCYM6120w | Santesau Cymru |
| 6eCYM3120w | Mynegiant 3 |
| 6eCYM1020w | Cyfieithu 3 |
| 6eCYM6320w | Astudio Enwau Lleoedd |
| 6eCYM1120w | Benthyca Ieithyddol: Iaith a Thirwedd |
| 6eCYM7320w | Hanes Sosio-ieithyddol y Gymraeg |
| 6eCYM2420w | Gerallt Gymro |
| 6eCYM6120w | Santesau Cymru |
| 6eCYM2920w | Traethawd Estynedig |
| 6eCYM7420w | Hanes Cymru: Terfysgoedd Ardaloedd Diwydiannol Cymru c.1800 – c.1850 |