EnglishMae Adran y Gymraeg yn cynnig modiwlau unigol neu gyrsiau gradd llawn ar-lein. Cewch y rhyddid i astudio pryd bynnag a ble bynnag y mynnoch! Y mae dau lwybr israddedig ar gael, un ar gyfer Cymry Cymraeg, a’r llall ar gyfer y rheiny sy’n dysgu’r iaith. Dilynwch B.A. Cymraeg neu B.A. Astudiaethau Cymraeg ac ymunwch gyda’n graddedigion ar-lein llwyddiannus. Gallwch ddewis eich llwybrau astudio eich hunain, fel y gallwch astudio’r meysydd sydd fwyaf o ddiddordeb ichi ac sy’n gweddu o bosib i’ch cynlluniau gyrfaol.
Mae ein staff yn adnabyddus am eu cyhoeddiadau ar iaith a llenyddiaeth ac yn awdurdodau cydnabyddedig yn eu priod feysydd. Pwnc bywiog yw'r Gymraeg yn Llambed, ond pwnc sy'n dal i ddatblygu ac ymestyn ei ganghennau, fel coeden ag iddi wreiddiau dwfn.
Byddwch yn derbyn cefnogaeth lawn drwy gydol eich astudiaethau gyda chymorth darlithydd arbenigol a fydd yn eich cynghori ac yn cynnig adborth cynhwysfawr i chi ar eich gwaith. Mae dysgu ar-lein yn heriol ond yn hwyl. Nid yw’n syndod fod nifer o’n myfyrwyr yn dychwelyd i wneud gradd uwch ar-lein.
20 credyd yw £230 (Cymuned Ewropeaidd)
Cost modiwl 10 credyd yw £115 (Cymuned Ewropeaidd)
Am fanylion pellach am ein cyrsiau ar-lein cysylltwch â Dr Christine Jones
ar 01570 424931 c.m.jones@lamp.ac.uk