Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Adran y GymraegEnglish

Newyddion a Digwyddiadau

Cwrs Cymraeg y Gwanwyn 2010

Daeth dros ddeugain o fyfyrwyr o bob oedran i Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Llambed i ddysgu Cymraeg. Cafwyd wythnos lwyddiannus dros ben unwaith yn rhagor.

Cwrs Gwanwyn 2010

Erbyn prynhawn dydd Gwener, roedd yr ymarferwyr wedi llwyr ymladd ar ôl wythnos ddwys o ddysgu Cymraeg . Roedd pawb wedi gwerthfawrogi’r ymdrech a wnaed i wneud y dysgu’n brofiad pleserus, hwyliog a heriol er mwyn cael canlyniadau!

Roedd y myfyrwyr wedi dod i Lambed am nifer o resymau: rhai er mwyn cael sialens newydd, eraill yn awyddus i ddysgu’r iaith fel hobi neu i agor drysau i gyfleoedd newydd. Eraill, i’w helpu i gael swyddi newydd. Ond yr un oedd y nod, i gyflawni’r freuddwyd o lwyddo i siarad yr iaith yn rhugl.