Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Adran y GymraegEnglish

Staff

Dr Christine Jones
Penaeth Adran y Gymraeg

Chrisitine JonesFfôn: (01570) 424931
Ebost: c.m.jones@lamp.ac.uk

Un o ogledd Sir Benfro yn wreiddiol, mae Christine yn arbenigo mewn ieithyddiaeth gymwysedig, cymdeithaseg iaith a thafodieitheg. Mae wedi cyhoeddi amryw erthyglau a llyfrau yn y meysydd hyn ac mae’n ymddiddori’n fawr mewn hybu Cymraeg i oedolion fel maes ymchwil, er mwyn rhoi pwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol i fyd dysgu Cymraeg fel ail iaith. Yn sgil ei phrofiad helaeth yn y maes, mae wedi paratoi ystod eang iawn o ddeunyddiau dysgu i ddysgwyr o bob oed a gallu.

Hi yw cydawdur y cyrsiau Multi Media Welsh A/B sef y cyrsiau iaith hynod lwyddiannus mae Adran y Gymraeg yn eu cynnig ar y Rhyngrwyd  i ddysgwyr. Hi hefyd yw cydawdur y gyfrol Teach Yourself Welsh addefnyddir gan ddysgwyr y Gymraeg ledled y byd.

Cyfrifoldebau dysgu israddedig

Yn y dosbarth

  • Cymraeg ysgrifenedig 5 a 6
  • Tafodieitheg (cyfrwng Cymraeg a Saesneg)
  • Cyflwyno Iaith (C/S)
  • Y Dadeni (C)
  • Traethawd Estynedig (C/S)

Ar-lein

  • Camau Pellach
  • Mynegiant Lefelau 4,5 a 6
  • Enwau Lleoedd (cyfrwng Cymraeg a Saesneg)
  • Benthyca Ieithyddol (C/S)
  • Hanes Sosio-ieithyddol y Gymraeg (C/S)
  • Traethawd Estynedig (C/S)
  • Y Celtiaid yn Ewrop/ ym Mhrydain (C/S)
  • Arwresau Celtaidd (C/S)

Mae Christine hefyd yn gyfarwyddwr ymchwil profiadol ac mae ar hyn o bryd yn cyfarwyddo 7 o fyfyrwyr sydd naill yn gwneud MPhil neu PhD yn yr Adran - yn bennaf ym maes ieithyddiaeth gymwysedig a chymdeithaseg iaith. Mae hefyd yn dysgu modylau uwchraddedig ar Hanes Sosio-ieithyddol y Gymraeg a’r Celtiaid ar y radd MA mewn Astudiaethau Celtaidd yn ogystal â chyfarwyddo’r rheiny sy’n dewis gwneud traethodau MA yn y meysydd hyn.

Bu Christine yn Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan yn ystod y flwyddyn academaidd 2008-9 ac mae’n cynrychioli’r Brifysgol ar nifer o bwyllgorau allanol. Mae hefyd yn aelod o amryw bwyllgorau mewnol megis y Cyngor a’r Senedd a’r Pwyllgor Addysgu Cyfrwng Cymraeg.

Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn Datblygiad Staff a hi yw Cyfarwyddwr Tystysgrif Uwchraddedig y Brifysgol mewn Addysgu mewn Addysg Uwch. Hi hefyd yw Arholwr Allanol y cymhwyster cenedlaethol mewn Addysgu Cymraeg i Oedolion (Prifysgol Caerdydd) a’r Radd Sylfaen mewn Cyfieithu (Prifysgol Glyndŵr).

Cyhoeddiadau Diweddar

  • Yn y Wasg – Speak Welsh with Confidence, (gyda Kara Lewis), Hodder & Stoughton, Haf 2010. 
  • Welsh: A Language in Crisis?’yn Minority Languages in Europe, Gol. Alena Mizerola, Gwasg Prifysgol Masaryk, Sbaen, 2009, pp.45-65.
  • Teach Yourself Welsh Conversation (gyda Kara Lewis), Hodder & Stoughton ISBN 978-0-340-94021-1 2007, 3CD a llyfryn 48 tud.
  • Teach Yourself Welsh Grammar, Hodder & Stoughton ISBN 0-340-88776-9 2007, tt.220.
  • 'Llenyddiaeth mewn Tafodiaith: Tafodiaith mewn Llenyddiaeth', Llenyddiaeth mewn theori , Cyfrol 1, 2006, tt. 81-100.
  •  'Gal∙les i el ga∙les: una avaluació sociolingüistica', Europa parla (ii) Anuari de l'Agrupació Borrianenca de Cultura XV11, 2006 tt. 65-82. Goln. Josep Guzmán, Joan Verdegal.
  • 'Llafar Bro Maenclochog', yn Mam-gu, Siân Hwêl a Naomi : Hanes a Hudoliaeth Bro Maenclochog. Gol. Hefin Wyn, Clychau Clochog 2006, tt. 369-381.
  • Asynnod yn y gyfres Brechdan Inc ar gyfer plant ail iaith CA3 Gwasg Gomer, 2006, tt. 32.
  • 'Pwyso a Mesur: cerddi tafodiaith Shasbi', Taliesin cyfrol 127, gwanwyn 2006, tt. 158-9.
  • Adran ar yr Iaith Gymraeg Year's Work in Modern Languages Vol 66 , Manly Publishing for the Modern Humanities Research Association, 2007, tt. 491-496.
  • Adran ar yr Iaith Gymraeg Year's Work in Modern Languages Vol 66 , Manly Publishing for the Modern Humanities Research Association, 2006, tt. 449-453.
  • Adran ar yr Iaith Gymraeg Year's Work in Modern Languages Cyfrol 65 , Manly Publishing for the Modern Humanities Research Association, 2005, tt. 441-445.
  • Golygydd Ysbryd y Lle Hwn gan Mair Evans, Gwasg Gofannon ISBN 0954810201, 2004, tt. 94.
  • World Cultures: Wales (gyda Julie Brake), Hodder & Stoughton ISBN 0340802987, 2004, tt. 239.
  • Teach Yourself Welsh New Edition (gyda Julie Brake), Hodder & Stoughton ISBN O340 868600, 2003, tt. 314. (Link to AMAZON)
  • Cydolygydd 12 nofel i ddysgwyr yn y gyfres Nofelau Nawr, Gwasg Gomer 1999-2003.

Detholiad o gyhoeddiadau eraill

  • Teach Yourself Welsh (gyda Julie Brake), Hodder & Stoughton ISBN 0 34077 9705, 2000, tt. 320.
  • Golygydd: Cyflwyno'r Gymraeg: Llawlyfr i Diwtoriaid Iaith, Gomer Press ISBN 1 85902 9035, 2000, tt. 182.
  • Goreuon y Ganrif yn y gyfres Cam at y Cewri, Gwasg Gomer ISBN 1 85902 5226, 1998, tt. 137. Ailargraffwyd Ionawr 2004.
  • 'Sir Benfro a'r Gerdd Dafodiaith', Llên Cymru 21, 1998, tt. 139-150.
  • 'Golwg ar y Llafar a'r Llenyddol', Ysgrifau Beirniadol XXIII, 1997, tt. 270-77.
  • 'Motivation and Gender: A Welsh Case Study', Journal of Celtic Language Learning 1996, tt. 6-20.
  • 'Tafodiaith a Barddoniaeth', Ysgrifau Beirniadol XXI, 1995 tt. 130-5.
  • Y Byw sy'n Cysgu gan Kate Roberts, fersiwn talfyredig yn y gyfres Cam at y Cewri, Gwasg Gomer ISBN 1 85902 1093, 1995, tt. 170.
  • Dyfed: Blas ar ei Thafodieithoedd, (with Dr. D.A. Thorne), Gomer Press, ISBN 0 863838820, 1992, tt. 93.
  • ‘The Wlpan: a study in motivation,' Journal of Multilingual and Multicultural Development, Volume. 12:3 1991, pp. 183-194.