Cymraeg"Bûm yn ddigon ffodus i gael gwaith yn syth ar ôl graddio. Fe es i i weithio fel is-deitlwr gyda chwmni Acen yng Nghaerdydd.
Y mae’r Adran Gymraeg yn Llambed yn unigryw oherwydd bod modd ichi astudio is-deitlo fel rhan o’ch gradd ac ennill cymhwyster proffesiynol a arholir gan S4C. Yn ogystal â dysgu sut i is-deitlo a defnyddio’r offer diweddaraf, cefais y profi ad o weithio gyda chwmni is-deitlo yn ystod fy ngwyliau yn y Brifysgol. Trefnwyd y cwbl gan yr Adran ac roedd yn brofi ad amhrisiadwy.
Mwynheais fy nghyfnod yn Llambed yn fawr iawn. Y mae’r Adran yn fach ac yn gyfeillgar ac mae’r staff yn barod iawn i gynorthwyo myfyrwyr. Rwy’n dod o’r Gelli yn y Rhondda Fawr yn wreiddiol ac enillais ysgoloriaeth i ddod i Lambed i astudio’r Gymraeg. Roedd hyn yn help mawr wrth brynu llyfrau ac yn gymorth gyda rhai o’r costau byw yn y fl wyddyn gyntaf.
Rhai o’m hoff rannau o’r cwrs oedd astudio tafodieitheg – gwneud gwaith maes a recordio pobl yn siarad Cymraeg mewn gwahanol ardaloedd – ac astudio llenyddiaeth gyfoes. Tra oeddwn yn fyfyriwr yn Llambed, cefais fy nhalu i weithio yn Undeb y Myfyrwyr i gyfi eithu ar y pryd mewn cyfarfodydd. Roedd hyn yn gyfl e da i gwrdd â phobl a deuthum i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth hefyd yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol. Y mae llawer o ffrindiau gennyf yn Llambed a byddaf yn mynd yn ôl yn aml i gwrdd â hwy."
‘Mwynheais y profi ad o fod yn yn y Brifysgol yn Llambed cymaint fel y penderfynais aros yma am fl wyddyn arall. Ar ôl graddio gyda BA Cyd-Anrhydedd mewn Astudiaethau Cymraeg ac Astudiaethau Cyfryngau, fe’m hetholwyd yn Ddirprwy Lywydd (Adloniant a Chyhoeddusrwydd) yn Undeb y Myfyrwyr. Y mae’n swydd lawn amser ac rwyf wrth fy modd yn gwneud y gwaith hwn. Eleni rwy’n edrych ymlaen at ddenu nifer o fandiau Cymraeg i’r Undeb yn Llambed.
Y mae pob math o gymdeithasau diddorol ar gael yn yr Undeb hefyd, e.e. clybiau trin cleddau, marchogaeth, rygbi i ferched, Kung-Fu, ailgreu brwydrau a.y.b. Rwyf wedi mwynhau bywyd cymdeithasol gwych yma. Rwy’n canu’r gitâr a’r acordion mewn band o’r enw ‘Sleepyhouse’. Cwrddais â’r ffrindiau hyn yn y Brifysgol yn Llambed ac rydym wedi cael llawer o hwyl: enillasom gystadleuaeth ‘Demo y mis’ gyda BBC Radio Rhydychen ac rydym wedi ymddangos mewn nifer o gylchgronau roc a cherddoriaeth. Y mae’n rhwydd iawn gwneud ffrindiau yn Llambed. Y mae pawb mor gyfeillgar ac mae perthynas dda rhwng y Brifysgol a’r dref.
Y mae’n lle gwych i ddysgu’r Gymraeg, oherwydd bod modd defnyddio’r Gymraeg yn naturiol yn y dref ac ar y campws. Rwy’n dod o gefndir di- Gymraeg: mae fy nheulu’n byw ym Mhenarth ond rydym o dras Eidalaidd yn wreiddiol. Y mae’r radd Astudiaethau Cymraeg yn ddewis da i’r sawl sydd am ddysgu’r iaith Gymraeg, beth bynnag yw’ch cefndir teuluol, ac mae hi hefyd yn rhoi cyfl e i chi ddysgu am hanes a llên Cymru. Fy hoff rannau o’r cwrs oedd darllen cerddi canoloesol - megis gwaith Dafydd ap Gwilym - ac astudio hanes cymdeithasol Cymru. Rwy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn y gwaith nawr, yn ogystal â’r dref ac yn falch iawn fy mod wedi dewis dod i Lambed."