EnglishAM GYFNOD PENODEDIG YN UNIG MAE GOSTYNGIAD AR GAEL I FYFYRWYR RHYNGWLADOL SY’N COFRESTRU AM Y TRO CYNTAF: BYDDANT YN TALU £3,390 YN HYTRACH NA £10,719
Cynlluniwyd y radd MA mewn Astudiaethau Celtaidd yn benodol ar gyfer myfyrwyr sy’n awyddus i ehangu eu gwybodaeth am y diwylliannau Celtaidd, ennill cymhwyster ôl-radd ac astudio wrth eu pwysau yn eu cartrefi eu hunain.
Mae’r cynllun gradd hyblyg hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddewis astudio nifer o bynciau ieithyddol, hanesyddol a llenyddol o bell (e.e. y Celtiaid: O’r Cychwyn hyd y Cyfnod Modern, Y Ferch yn yr Oesoedd Canol: Ffynonellau o’r Gwledydd Celtaidd, Hanes Sosioieithyddol y Gymraeg, y Mabinogi, Arthur y Celtiaid, Bywyd Gwerin Cymru, Cyfieithu ac Isdeitlo).
Er bod gwybodaeth o’r ieithoedd Celtaidd yn fanteisiol, nid yw’n hollol angenrheidiol. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddilyn y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Paratowyd y cyrsiau gan arbenigwyr yn y gwahanol feysydd a rhoddir cyfarwyddyd i chi gan diwtoriaid personol sy’n cysylltu â chi trwy e-bost.
Sgiliau Astudio ac Ymchwilio
Y Celtiaid: O’r Cychwyn hyd y Cyfnod Modern
Y Mabinogi
Arthur y Celtiaid
Y Ferch yn yr Oesoedd Canol
Cwlt y Forwyn Fair yn y Gwledydd Celtaidd
Bywyd Gwerin Cymru
Hanes Sosioieithyddol yr Ieithoedd Celtaidd
Sieffre o Fynwy a’r Traddodiadau am Hanes Prydain
Mynegiant i Raddedigion
Cyfieithu ac Isdeitlo
Santesau Cymru
Tywysogion Cymru: Llywelyn ap Iorwerth a Llywelyn ap Gruffudd
Hanes Sosioieithyddol y Gymraeg
Gerallt Gymro