EnglishDarn sylweddol o ymchwil wreiddiol yw PhD. Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau traethawd 80,000-100,000 o eiriau dros gyfnod o dair blynedd (neu fwy na hynny pe baent yn cofrestru’n rhan amser). Y mae pobl yn dewis gwneud ymchwil am amryw o resymau, er mwyn datblygu eu gyrfa ymhellach neu oherwydd bod ganddynt ddiddordeb personol yn y pwnc dan sylw. Y cam cyntaf yw cysylltu â’r Adran i drafod eich diddordebau ymchwil, cymwysterau a’ch profiad blaenorol. Rhoddir cyfarwyddyd i chi ynglŷn ag addasrwydd y pwnc a’r broses o baratoi crynodeb o’r prosiect arfaethedig. Ni ddylai’r disgrifiad hwn fod yn hwy na 500 o eiriau a dylech nodi’ch methodoleg a theitl yr ymchwil. Bydd ysgolhaig profiadol yn cyfarwyddo’ch gwaith ymchwil ac yn cwrdd â chi’n aml i drafod eich traethawd. Anogir myfyrwyr i fynychu seminarau ymchwil a drefnir gan y coleg, yn ogystal â chynadleddau perthnasol, ond ni fyddwch yn mynychu unrhyw ddosbarthiadau penodol. Y mae gan staff yr Adran ddidordeb ac arbenigedd mewn amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys:
Darn o ymchwil wreiddiol yw MPhil. Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau traethawd 50,000-60,000 o eiriau dros gyfnod o rwng blwyddyn a thair blynedd (neu fwy na hynny pe baent yn cofrestru’n rhan amser). Dewis ardderchog yw MPhil ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gymwys i gofrestru ar gyfer PhD yn syth, neu fyfyrwyr sydd am wneud ymchwil yn hytrach na dilyn cwrs a ddysgir trwy gyfrwng darlithiau yn y coleg. Unwaith eto bydd ysgolhaig profiadol yn cyfarwyddo’ch gwaith ymchwil ac yn cwrdd â chi’n aml i drafod eich traethawd.
Nid yw’ch oedran yn bwysig, ond fel arfer disgwylir bod gan fyfyrwyr sy’n cofrestru ar gyfer PhD radd MA’n barod (neu radd dda yn y Gymraeg neu bwnc perthnasol o leiaf). Os nad oes gennych gymhwyster MA, neu os nad ydych yn teimlo’ch bod yn barod i wneud ymchwil ar lefel PhD, gellwch gofrestru ar gyfer MPhil yn y lle cyntaf ac ystyried uwchraddio i PhD (gyda chaniatâd y Brifysgol) ar ôl blwyddyn neu ddwy. Yn wir, y mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yr Adran yn cofrestru ar gyfer MPhil yn y lle cyntaf.
Y mae’r ffioedd yn newid bob blwyddyn ac yn dibynnu os ydych yn fyfyriwr sy’n byw yn y Deyrnas Unedig/Ewrop neu wlad tramor.
Gall myfyrwyr gofrestru ym mis Ionawr, Ebrill neu fis Hydref, ond anogir myfyrwyr i wneud ymholiadau ynglŷn ag ymchwil ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Cysyllter â Dr Jane Cartwright (j.cartwright@lamp.ac.uk) yn y lle cyntaf os oes gennych ymholiad (1570) 424870. Bydd angen i chi lunio disgrifiad manwl o’r prosiect ymchwil arfaethedig.
Er bod nifer o fyfyrwyr ymchwil yr Adran yn dewis ymsefydlu yn yr ardal hyfryd hon, y mae eraill yn byw yn bell o’r coleg ac yn trefnu cwrdd â’u tiwtor ymchwil yn rheolaidd. Y mae’n bosibl cadw mewn cysylltiad hefyd wrth sgwrsio ar y ffôn neu anfon llythyrau ebost. Anogir myfyrwyr i ymweld â’r adran pan fo hynny’n cyfleus a manteisio ar yr adnoddau ardderchog a geir ar y campws.
Yn ddiweddar y mae myfyrwyr ôl-radd Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn astudio mewn ystod eang o feysydd gwahanol. Dyma restr o draethodau ymchwil sydd ar y gweill yn yr Adran (neu draethodau a gwblhawyd yn ddiweddar):
Nigel Binding, ‘Dylanwad y Beibl ar Lenyddiaeth Gymraeg'.
Elizabeth Bowen, ‘Baledi sy'n ymwneud â Merthyr yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'.
Margaret Davies, ‘Gwaith Morgan Elfael'.
Donald Evans, ‘Egwyddorion Beirniadol Awdl yr Eisteddfod Genedlaethol'.
Mair Evans, ‘Y Nofel Hanes 1905-1986'.
Wolfgang Greller, ‘The Dentals in Insular Celtic'.
Catrin Hopkins, ‘Gwaith Llenyddol Islwyn (William Thomas) 1832-1878'.
Tristan Gray Hulse, ‘The Golden Fame of Eagles: The Cult of Relics in Wales '
Gwenno Mai Jones, ‘Dylanwadau ar waith Emrys ap Iwan'.
G. Mcvey, ‘A Study of the Motifs Contained in the Fourth Branch of the Mabinogi'.
Jason Mirza, ‘The English Hymns of William Williams, Pantycelyn'.
Ruth Morgan, ‘Menter Cwm Gwendraeth'.
Victoria Morgan, ‘Cornish: Past, Present and Future'.
Gareth Morris, ‘Astudiaeth o Waith Siôn Dafydd Las, yr Olaf o Feirdd Cyfnod y Cywydd'.
Kelly O'Connor Salmon, ‘ Ny madeuaf i uyg kwn : Dogs in Medieval Welsh Literature'.
Sue J. Pitman, ‘The Phenomenon of the Head in Pagan Celtic Culture'.
Robert Phillips, ‘Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn Sir Gaerfyrddin yn Ystod y Rhyfel Byd Cyntaf'.
Elizabeth Schoales, ‘Praise and Propaganda: Prophetic Poetry in Wales to 1400'
Einir Wyn Thomas, ‘Astudiaeth Strwythurol o'r PKM'.
Carol Thomas, ‘ Buched Anna , Buched Meir a Llyma Vabinogi Iessu Grist : Agweddau ar Destunau Apocryffaidd'.
Penri Williams, ‘Twf Crefydd a Cherddoriaeth yng Nghymru yn yr Ail Ganrif ar Bymtheg'.
B. K. Walsh, ‘A Study of The Secret Commonwealth and the fairy belief complex: A Late Seventeenth-Century Text Concerning the Folklore of the Scottish Highlands'.
Irene Williams, ‘Heddychwyr a Heddychiaeth Cymru yn yr Ail Ryfel Byd gyda Sylw Arbennig i Wrthwynebwyr Cwm Gwendraeth'.
Kate Wooldridge, ‘Medieval Welsh Women: Art and Patronage'.