Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Graphic.

Graphic.

Chaplaincy | Caplandy

Capel Prifysgol Dewi Sant

Mae’r Capel yn draddodiadol yn sefydliad Anglicanaidd, yn rhan o’r Eglwys yng Nghymru ac mae felly’n defnyddio defodau a seremonïau’r Eglwys yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gweinidogaeth y Capel ar agor i bobl o bob enwad ac o ddim enwad o gwbl, ac mae gwahoddiad a chroeso cynnes i bawb i unrhyw un o wasanaethau’r Capel.  Er mwyn cael manylion am holl wasanaethau’r Gaplaniaeth gwasgwch yma.

Mae’r gynulleidfa reolaidd yn cynnwys myfyrwyr presennol a chyn fyfyrwyr, aelodau a chyn aelodau staff, pobl sydd wedi meithrin perthynas gyda chymuned y Capel trwy fyw yn y dref neu’r ardal leol a’u teuluoedd. Os oes gennych blant dylech deimlo’n gwbl gyfforddus yn dod â nhw i wasanaethau’r Capel.

Cynhelir dathliad ar gân o’r Cymun bob Dydd Sul am 11am trwy gydol y flwyddyn, y tu fewn a’r tu allan i’r tymor. Dilynir hynny bob tro gyda the, coffi, diod ffrwythau a bisgedi ac mae croeso cynnes i bawb.

Capel Prifysgol Dewi Sant
Capel Prifysgol Dewi Sant (Llun: Chrys Tremthanmor)

Mae’r Caplan, y Parchedig Matthew Hill, yn Offeiriad Anglicanaidd. Mae ar gael ar gyfer pobl sy’n awyddus i’w weld i gael cyngor, cynhaliaeth ysbrydol, sacrament cymodi, neu am unrhyw reswm arall, ac mae’n siarad Cymraeg a Saesneg.

Er mwyn cael rhagor o fanylion cysylltwch â’r Caplan.

Ebost: chapel@lamp.ac.uk
Ffôn: 01570 424823, Ffôn Symudol: 07964 631997

Newyddion Diweddaraf

 

Graphic