Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
Cyn Fyfywrwyr Llanbedr Pont Steffan

Croeso’n Ôl!

Ar ôl llosgi’r gannwyll yn isel, gofid a phryder cyfnod yr arholiadau a llawenydd cael eich gradd, mae graddio’n gychwyn ar berthynas newydd rhwng cyn fyfyrwyr a’r Brifysgol. Ble bynnag yr ydych, a beth bynnag a wnewch, mae gennym ddiddordeb byw yn eich hynt a helynt ac yn awyddus iawn i gadw cysylltiad â chi.

Mae Swyddfa’r Cyn Fyfyrwyr yn cadw cysylltiad â thros 10 000 o raddedigion Llambed o Awstralia i Zambia. Swyddfa’r Cyn Fyfyrwyr yw’r man cyswllt ar gyfer holl ymholiadau cyn fyfyrwyr, ac mae’n cydweithio â Chymdeithas Llanbedr Pont Steffan a’r Swyddfa Derbyn Israddedigion.

Mae’r Cydlynydd Cyn Fyfyrwyr yn cyflawni llu o dasgau gan gynnwys cadw a diweddaru cronfa ddata’r cyn fyfyrwyr, tanysgrifiadau a gwaith gweinyddol Cymdeithas Llanbedr Pont Steffan, a’r gwaith o drefnu digwyddiadau cyn fyfyrwyr.

Os ydych wedi symud ers graddio ond heb roi gwybod inni am eich cyfeiriad newydd, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Gallwch ein e-bostio (alumni@lamp.ac.uk) gyda manylion eich enw, blwyddyn graddio, cwrs gradd a chyfeiriad newydd fel y gallwn newid y gronfa ddata. Yn yr un modd, gofynnwch i’ch ffrindiau o ddyddiau Llambed yr ydych yn dal mewn cysylltiad â nhw i wneud yr un peth.

Yn y dyfodol agos, gobeithiwn wella’r gwele hwn, fel y gallwch ddiweddaru eich newyddion diweddaraf a gadael negeseuon ar gyfer graddedigion eraill o Lanbed. Galwch heibio eto cyn bo hir. Yn y cyfamser, beth am gael cip ar hanes eich hen adran neu bori’n hamddenol drwy’n tudalennau i weld beth sydd wedi newid a beth sy’n ddigyfnewid. Fel arall, beth am fynd i Friends Reunited ac ail-gysylltu â hen ffrindiau o ddyddiau Llambed.

10 rheswm da dros ddewis Llambed

Dyddiau Agored y Brifysgol