![]() |
Gwasanaethau Cyfrifiaduro’r Brifysgol
Gyda 200 o gyfrifiaduron mewn gwahanol fannau ledled y Brifysgol, fyddwch chi byth yn bell o’r draffordd wybodaeth. Mae Gwasanaeth Cyfrifiaduro’r Brifysgol yn darparu cysylltiad Rhyngrwyd 24 awr, cyfrif e-bost personol, cyfleusterau storio ffeiliau a chysylltiad â miloedd o erthyglau mewn cyfnodolion electronaidd. Credwn y gall TG fod yn fanteisiol i bob myfyriwr wrth eu helpu i gynhyrchu gwaith o ansawdd dda mewn ffordd effeithlon, ac mae’r medrau a ddatblygir yn hanfodol yn y gweithlu cyfoes. Darparwn hyfforddiant mewn medrau TG sylfaenol ac, os ydych eisiau datblygu eich medrau TG ymhellach, gallwch ddewis cymryd modylau ar becynnau meddalwedd arbennig neu gymryd prawf y Drwydded Gyrru Cyfrifiaduron Ewropeaidd.
Hefyd, mae gan bob ystafell wely astudio gysylltiad rhwydwaith, sy’n golygu, os oes gennych eich cyfrifiadur eich hun ac yn talu tâl trefnu a chysylltu rhesymol iawn, y gallwch gysylltu â’r rhwydwaith o’ch ystafell.
Safle We Gwasanaethau Cyfrifiaduro’r Brifysgol >>
Y Brif Lyfrgell
Mae’n prif lyfrgell yn gartref i fwy na 200,000 cyfrol, ynghyd â thros 530 o gyfnodolion. Mae’r llyfrgell ar agor gyda’r nos a thros y Sul, yn ogystal ag yn ystod yr wythnos, ac mae wedi ei chatalogio’n llawn sy’n golygu y gallwch chwilio’n rhwydd am lyfrau penodol trwy ddefnyddio’r gronfa ddata gyfrifiadurol. Mae gan y Llyfrgell hefyd ddesgiau gwaith, ystafelloedd gwylio DVD a fideo, a gorsafoedd gwaith cyfrifiadurol.
Er mwyn ychwanegu at y daliadau hyn, mae gan lawer o adrannau eu casgliadau eu hunain o ddeunyddiau arbenigol. Darperir gwasanaeth benthyca trwy’r post ar gyfer myfyrwyr dysgu o hirbell, ac mae Llambed hefyd yn aelod o UK Libraries Plus ac SRX
(cynlluniau cyd-fenthyca sy’n galluogi dysgwyr o hirbell i fenthyca o lyfrgelloedd Addysg Uwch sy’n agosach i’w cartrefi).
Llyfrgell y Sylfaenwyr
Mae Llyfrgell y Sylfaenwyr yn gartref i gasgliad rhagorol o lyfrau printiedig hynaf y Brifysgol (1470-1850) a llawysgrifau (yn dyddio o’r 13eg ganrif), a roddwyd i Lanbedr Pont Steffan o 1822 ymlaen. Mae’r Llyfrgell yn adnodd sylfaenol ar gyfer dysgu, ymchwil ac ysgolheictod yn y Brifysgol ac mae hefyd ar gael i’w defnyddio gan yr holl fyfyrwyr a staff. Mae’n cynnwys nifer fawr o gyfrolau darluniedig, gan gynnwys set bron yn gyfan o lithograffau gan William Hogarth, argraffiadau cyntaf o weithiau enwog, megis Gulliver’s Travels gan Swift (1726) a Geiriadur Saesneg Johnson. Ymhlith ei thrysorau eraill mae sgrôl lledr o’r 15fed ganrif o Lyfr Esther, Beibl Lladin a addurnwyd â llaw o 1279, llawysgrif o’r Qu'ran, a thestun Bwdeaidd mewn Pali wedi’i arysgrifennu ar ddail palmwydd.
Safle We Llyfrgell y Sylfaenwyr >>
Canolfan y Cyfryngau
I brifysgol o faint Llanbedr Pont Steffan, mae ein Canolfan Cyfryngau fodern a phwrpasol yn un gyflawn a helaeth iawn. Ceir ynddi stiwdio deledu helaeth gyda dros 74m2 o ofod stiwdio, cyfarpar goleuo llawn a 3 chamera sgrîn lydan, stiwdio sain gyfrannol a stiwdio is -deitlo ar wahân. Mae’r Ganolfan Olygu Ddigidol yn cynnwys digon o gyfrifiaduron wedi’u llwytho â’r meddalwedd golygu diweddaraf, mini-DV a pheiriannau chwarae DV-Cam, camerâu digidol llonydd a pheiriannau mini-disc. Defnyddir yr Uned e-Ddarlledu Allanol i hyfforddi myfyrwyr sy’n astudio Astudiaethau Ffilm a’r Cyfryngau ym medrau cynhyrchu aml-gamera, gan eu galluogi i gynhyrchu gwahanol raglenni “fel yn fyw” yn ogystal â llifo cynnwys byw ar y Rhyngrwyd.
Safle We Canolfan y Cyfryngau >>
Uned Cyflogadwyedd
Rôl yr Uned Cyflogadwyedd yw rhoi i fyfyrwyr yr adnoddau, cyngor a gwasanaethau i’w helpu i ddatblygu medrau rheoli, dod o hyd i brofiad gwaith, swyddi, cyflogwyr a chyfleoedd eraill. Maent hefyd yn cynnig cyfres o fodylau gyrfaol a chyfnodau profiad gwaith y gellir eu cymryd fel rhan o radd.





