Coleg Celf Abertawe
Profiad Ysgol Gelf mewn Prifysgol Gyfoes
Nid oes addysg brifysgol arall yn debyg i addysg coleg celf. Mae’n unigryw yn y ffordd y mae’n meithrin, cyfarwyddo ac annog unigoliaeth, creadigrwydd ac arloesi.
Mae gan y DU ystod gyfoethog ac amrywiol o golegau celf sydd â threftadaeth arbennig o gynhyrchu artistiaid, dylunwyr, animeiddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a pherfformwyr a gydnabyddir ar draws y byd. Yn goleg celf hynaf a mwyaf sefydledig Cymru, mae Coleg Celf Abertawe yn rhan uchel ei pharch o’r traddodiad hwnnw.
Beth gallaf astudio?
Mae gan ein holl gyrsiau athroniaeth gyffredin; galluogi unigoliaeth, rhyddid creadigol a hyblygrwydd academaidd, ac rydym yn credu bod y rhain i gyd yn hanfodol wrth ddod o hyd i’ch llais eich hun o fewn eich dewis faes creadigol.
I Ôl-raddedigion
Mae ein Portffolio MA Deialogau Cyfoes yn creu llwyfan dysgu unigryw a ddefnyddir i annog myfyrwyr i ehangu eu profiad creadigol trwy arbrofi, cydweithio a disgwrs ryngddisgyblaethol.
Coleg Celf Abertawe Sioeau Graddio Haf
Statistics
Mwy o opsiynau
I Brentisiaid
Cydnabyddir Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant yn un o ganolfannau rhagoriaeth y DU mewn gwydr lliw. Mae gan yr adran dreftadaeth gyfoethog mewn addysg gwydr lliw ac mae ganddi archif gwefreiddiol o ddyluniadau’n rhychwantu 80 mlynedd, sy’n darparu adnodd addysgu amhrisiadwy.
Dosbarthiadau Nos i Chi
Mae’r rhaglen Celf Liw Nos yn cael ei chynnal drwy’r flwyddyn ac mae’n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau creadigol, gan gynnwys serameg, ffotograffiaeth, a darlunio.
Ysgol Gelf Dydd Sadwrn
Gyda’r nod o ysbrydoli a datblygu artistiaid ifanc rhwng 16-18 oed, mae’r cwrs 10 wythnos hwn yn darparu profiad Ysgol Gelf cyffrous, creadigol, ac yn caniatáu i chi archwilio gwahanol ddisgyblaethau Celf a Dylunio i ymestyn eich portffolio Celf.
Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP)
Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) yw cainc fasnachol yr adran enwog yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe.
Newyddion a Digwyddiadau
Mae Coleg Celf Abertawe YDDS yn falch o gyhoeddi lansiad Gŵyl Ryngwladol Celf a Dylunio Metadisruption - AI sydd i’w chynnal ar 16 Medi, 2024. Digwyddiad arloesol sy’n dod â chelfyddyd AI mwyaf arloesol y byd at ei gilydd. amrywiaeth o gategorïau, yn amrywio o ffilm, ffotograffiaeth, cerddoriaeth, paentio, a dylunio cynnyrch.
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn paratoi gwaith i’w arddangos yn arddangosfa flynyddol yr haf, a gynhelir mewn gwahanol leoliadau o amgylch y ddinas y mis hwn.
Ymunwch â ni yn Sioeau Graddio Haf Coleg Celf Abertawe, PCYDDS 2024!
Mae’r rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio a’r rhaglen MA Celf a Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS wedi bod yn archwilio cyfnod newydd o addysg y semester hwn drwy integreiddio technolegau trochi i’r profiad addysgu a dysgu.
Mae Arddangosfa hardd o weithiau celf Plant a gynhyrchwyd gan ddisgyblion ysgolion cynradd lleol sy’n gweithio gyda Choleg Celf Abertawe YDDS i’w gweld yn gyhoeddus yn Eglwys y Santes Fair yng Nghanol Dinas Abertawe tan ddydd Gwener, Ebrill 12.
Bu myfyrwyr o’r rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe YDDS yn falch o arddangos eu gwaith celf yn Oriel uchel ei pharch West Wharf yng Nghaerdydd y semester hwn. Mae'r arddangosfa'n canolbwyntio ar Fenywod Creadigol, ac yn cynnwys gweithiau dau o'n myfyrwyr dawnus, Mengyue Zhu a Haowei Zhang.
Mae un gyn-fyfyrwraig ddawnus o Goleg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant, Marie Wilkinson, yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn ei gyrfa wrth i'w chynlluniau ymddangos am y tro cyntaf yn siopau Tesco ledled y wlad.
Cynhaliwyd diwrnod o ddathlu Cymreictod yn ddiweddar yng Ngholeg Celf Abertawe sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda darlith flynyddol a seremoni wobrwyo arbennig.