Skip page header and navigation

Sioe Haf: Ffotograffiaeth

Ffotograffiaeth

A woman leans against an old brick wall with an old-fashioned TV covering her head; a fuzzy grey image on the screen shows the face of a woman looking calmly out towards the viewer.

Unpeeled: Cymhlethdodau’r Profiad Dynol

Mewn oes a nodweddir yn gynyddol gan bwyslais ar ymddangosiad arwynebol yn hytrach na sylwedd, a nodweddion allanol yn hytrach na rhinweddau cynhenid, byddai’n hawdd datgysylltu neu fod yn ddifater ynghylch yr ymdeimlad o anfarwoldeb sy’n treiddio i’r cyflwr cyfoes. Ar hyd yr oesoedd, ac am byth, bydd artistiaid yn defnyddio’r cyd-destunau cyfoes o’u cwmpas fel deunydd crai ar gyfer syllu y tu hwnt i ffasâd ymddangosiad, ar gymhlethdodau’r profiad dynol sy’n gorwedd islaw. 

Daw Unpeeled â chydweithfa o artistiaid at ei gilydd o garfannau graddio rhaglenni BA (Anrh) Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun, BA (Anrh) Ffotograffiaeth Ddogfennol ac Actifiaeth Weledol, a BA (Anrh) Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Celf Abertawe, PCDDS. Mae’r artistiaid yn myfyrio ar eu profiadau personol a chyfunol, gan archwilio themâu hanes, yr Anthroposen, trywydd, cof, myth, hunaniaeth, technoleg a gwleidyddiaeth drwy gofleidio’r ddialog sy’n ehangu’n barhaus rhwng Celf Gain ac arfer Ffotograffig. 

Hoffai staff rhaglenni Celf Gain a Ffotograffiaeth Coleg Celf Abertawe PCDDS ddiolch i gydweithfa Unpeeled am drefniadau cytûn a chyflwyniad celfydd eu harddangosfa gan eu llongyfarch ar gynhyrchu cyrff mor ddifyr o waith. Dymunwn bob llwyddiant iddynt gyda’u gwaith yn y dyfodol.  

Ryan L. Moule
Pennaeth Astudiaethau Ffotograffig Israddedig
Coleg Celf Abertawe, PCyDDS.

Yr Athro Sue Williams
Pennaeth Celf Gain: Stiwdio, Safle, Cyd-destun
Coleg Celf Abertawe, PCyDDS.

Dosbarth '24

Ein Gwaith

BA Anrh Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol

Dominic Brewster

Yn ei arfer, mae Dominic Brewster yn archwilio ac yn ymateb i ofod a phensaernïaeth. Mae’n mynd ati i briodoli ei weithiau i’r fenter gydweithredol, Curb Collective, ac mae ei arfer cyfredol yn canolbwyntio ar gofnodi bywyd, darlunio isddiwylliant sglefrio-brigdonni, a’r profiadau mewn amgylcheddau newydd a chyfarwydd. Mae gwaith Brewster yn fewnsyllgar ac yn chwiliadol, wedi’i drwytho yn y broses o arsylwi ei amgylchoedd – mae’n ymgysylltu â’r holl synhwyrau i ddistyllu hanfod ‘cyflwr llif’ drwy gofleidio’r presennol. 

A black-and-white photograph showing someone with a rucksack, phone, and baggy clothes skateboarding along a pavement; the face isn't shown.

Zee Ahmed

Mae mewnosodiad trochol Ahmeds, (احساس – Ehsaas), yn archwilio’r frwydr fewnol rhwng agweddau cyntefig a rhesymegol y meddwl dynol a’n cysylltiad â byd natur o’n cwmpas. Drwy brofiad amlsynhwyraidd yn cynnwys ffotograffiaeth, cerameg, tafluniadau, sain a cherflunio, mae Zobia yn gwahodd y gwylwyr i ymgysylltu â chysyniad Sentire – teimlo. Diolch i’w gymeriad rhyngweithiol, anogir cyfranogwyr i gymryd rhan yn y broses o ddatgymalu’r mewnosodiad drwy wneud toriadau yn y llen gleiniog a datgelu’r ddelwedd islaw. Mae’r powlenni cerameg sy’n dal y gleiniau wedi’u crefftio â chlai o ranbarth Kashmir ac yn symbol o’r cysur a’r gefnogaeth y mae’r cartref yn eu darparu. 

Flames rise form the peak of a craggy reef on a beach; the close-up angle of the photo gives the reef the look of a volcano.

BA Anrh Ffotograffiaeth Yn Y Celfyddydau

Chloe Marie

Canolbwyntir ar dri phrif gyd-destun yn arfer Chloe Marie – mamolaeth, lle a’i pherthynas gyda’i merch. Mae gwaith cyfredol Marie “What Mothers Do Best“ yn archwilio cariad diamod. Gan ddefnyddio ffotograffiaeth du a gwyn mae’r corff o waith yn cofnodi dynameg deuluol twf, yn gorfforol ac yn gysyniadol.

Black-and-white photograph showing a girl screaming up towards the camera.

Ellie Thomas

Mae Ellie Thomas yn canolbwyntio ar symboleiddio sut mae unigolion yn ymdrin â salwch sydd heb ei ganfod sy’n cael effaith sylweddol ar eu bywydau. Gan ddefnyddio cyfrwng sydd yn draddodiadol yn darlunio’r byd yn sefydlog a llonydd, mae Thomas yn archwilio posibiliadau therapiwtig ffotograffiaeth i ddangos byd mewn tameidiau i ni.

A kaleidoscopic digital pattern of blue and radiant yellow shards.

Holly Morris-Price

‘Datgysylltiad cronig anwrthdroadwy y corff ffisegol, gan olygu ei fod yn edwino’n araf’ (Sportskeeda.com, A, Halder. 2024)  

Mae arfer Holly Morris-Price yn archwilio effeithiau seicolegol siâp a lliw i greu profiad i’r gynulleidfa sy’n caniatáu iddyn nhw deimlo wedi’u datgysylltu o’r realiti presennol rydym yn byw ynddo.

Drwy dynnu ysbrydoliaeth o’r gemau mae Morris-Price yn eu chwarae, mae’n creu gweithiau wedi’u lleoli ar safle sy’n creu perthnasoedd rhwng realiti a haniaeth.

‘Dros amser, mae’r byd yn mynd yn aneglur, ac mae’r corff yn y pen draw yn diflannu’ (Sportskeeda.com, A, Halder. 2024)  

A circle whose surface is swirled with a marbling effect in shades of pale pink and lilac.

Sheba Yashica

Diddordeb gwaith Sheba Yashica yw naws ac anian yr amgylchedd trefol, ac ynddo cyflwynir nifer di-rif o fannau dibwys. Yn nodweddiadol, ystyrir bod y ffiniau a’r corneli hyn mewn lleoedd a wnaed gan ddyn yn anfoddhaus yn esthetaidd, ond maen nhw’n dal i allu meddiannu ein cydwybod, hyd yn oed os yw hynny am ambell ennyd diflanedig ar y tro yn unig. Drwy ymgysylltu’n fwriadol â’r mannau hyn, bwriad Yashica yw archwilio’r awyrgylch a grëir ac a ysgogir gan y darnau hyn o gyfansoddiad yr amgylchedd adeiledig a gaiff eu hanwybyddu a’u hesgeuluso’n aml. 

A black-and-white photo showing the entrance to a warehouse at night with the words No Parking on the drive up to the entrance.

Ollie Stewart

Mae cyfres Ollie Stewart o ffotograffau, Changing channels, yn plymio i hanes cymhleth cynrychiolaeth cwïar yn y cyfryngau, tirwedd sy’n aml yn llawn ystrydebau ac anweledigrwydd. Mae’r gyfres ffotograffig hon yn archwilio effaith y portreadau hanesyddol hyn ar ffurfio hunaniaethau cwïar cyfoes.

Mae pob delwedd yn cynnwys aelod o’r gymuned LHDTC+ mewn lle maen nhw’n teimlo’n gyfforddus, gyda theledu hynafol wedi’i gyfosod ar eu pennau. Mae clecian y static a’r ddelwedd raenog yn adlewyrchu’r hanes tameidiog a’r chwilio parhaus am hunan-ddealltwriaeth o fewn y portreadau cyfyngedig hyn.

Mae’n dathlu’r weithred o ddatgelu naratifau anghofiedig a chydnabod yr angen am bortread mwy cynnil a dilys o brofiadau cwïar dros amser. Mae Changing channels yn alwad i weithredu, sy’n annog gwylwyr i ymgysylltu â’r gorffennol a chreu dyfodol gyda chynrychioliadau mwy cyfoethog, mwy amrywiol o hunaniaethau LHDTC+.  

A woman wearing floral pyjamas sits on a tartan rug between a wicker basket, a toy pig and a vase of white flowers; she is wearing a replica of a nineteen sixties TV set on her head; the screen displays a black-and-white photograph of a woman looking out towards the viewer.

Rosie Kent

Mae gwaith Rosie Kent yn dilyn eu cofnodion dyddiadur yn ystod eu taith o hunanddarganfod ynghylch eu rhywedd. Mae hunanbortreadau Kent yn cofnodi’r frwydr o beidio â chydymffurfio â safonau cymdeithas a rolau rhywedd a sut rydym ni wedi ein magu mewn byd sydd â disgwyliadau caeth am y ffordd y dylech ymddwyn yn seiliedig ar y rhyw a neilltuwyd i chi ar adeg eich geni. Mae gwaith Kent yn edrych yn ddyfnach ar yr effaith negyddol y gall y safonau hyn ei gael ar gyflwr meddwl a chorfforol unigolyn pan fyddan nhw’n teimlo dan bwysau i gydymffurfio â disgwyliadau cymdeithas mewn perthynas â rhywedd.

A desaturated photograph showing the body of a woman as she sits on a bed; her right leg displays a series of gothic tattoos including skulls, a spiderweb, and a carved pumpkin.